Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 4
Tachwedd 2015
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(60 munud)
NDM5862 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi gwerth cyfleoedd prentisiaeth amrywiol i Gymru.
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cynlluniau lleoliad gwaith ar gael i bobl ar draws cymdeithas yng Nghymru i gynorthwyo ailhyfforddi a chaniatáu ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy a blaengar.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio rhwng pob sector o'r system addysg a busnesau yng Nghymru i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar fframwaith cymwysterau ar gyfer pobl rhwng 14 a 18 oed a fyddai'n darparu mwy o ddewis ar gyfer llwybrau academaidd a galwedigaethol a'i gwneud yn haws i symud rhyngddynt er mwyn cefnogi unigolion i wireddu eu potensial llawn.
(60 munud)
NDM5864 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella perfformiad o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai tlodi tanwydd fod yn ganolog i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi;
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn Cymru Effeithlon i gynnig cynllun cynhwysfawr, yn debyg i Resource Efficient Scotland, i wella effeithlonrwydd adnoddau a mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid hinsawdd.
(60 munud)
NDM5865 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gan stryd fawr fywiog ac amrywiol rôl allweddol i'w chwarae yng Nghymru o ran adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, cefnogi swyddi a menter lleol a gwella cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol;
2. Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau i dwf canol trefi, sy'n cynnwys:
a) y cynnydd mewn adwerthu ar-lein ac ar gyrion trefi;
b) colli gwasanaethau lleol neu asedau cymunedol a'r gyfres ddiweddaraf o fanciau a gafodd eu cau;
c) y gyfradd siopau gwag ar y stryd fawr sy'n gyson yn uwch na chyfartaledd y DU;
d) y diffyg ystyriaeth gynnar o drafnidiaeth gynaliadwy mewn prosiectau adfywio; ac
e) methiant y system gynllunio i hwyluso datblygu ac annog buddsoddiad mewn ymateb i'r newidiadau yn yr hyn y mae cwsmeriaid yn galw amdano.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynigion arloesol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys datblygu rhwydwaith dysgu cenedlaethol i gynnig hyfforddiant ac adnoddau, hwyluso rhwydweithio i gael ysbrydoliaeth ar arfer gorau a chasglu a rhannu mynediad i ymchwil o bob cwr o'r byd ar adfywio canol trefi.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod polisïau'r Ceidwadwyr Cymreig a nodir yn 'Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru’.
‘Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru’
(30 munud)
NDM5863 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cartrefi'r
21ain Ganrif: yr achos dros dai di-garbon yn awr
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2015